Enghraifft o'r canlynol | ffenomen naturiol |
---|---|
Math | mudiant |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Proses ddaearegol sy'n cludo gwaddodion (cerrig mân, graean, tywod, clai a silt) ar hyd yr arfordir ac yn gyfochrog â'r draethlin yw drifft y glannau.
Mae'r broses hon yn digwydd yn y ffordd ganlynol. Mae tonnau wedi'u gyrru gan y gwynt mynychaf yn agosáu at draeth ar ongl. Mae'r torddwr (tonnau sy'n symud i fyny'r traeth) yn cario'r gwaddodion i fyny'r traeth ac ar hyd-ddo. Mae'r tynddwr (tonnau sy'n symud yn ôl i lawr y traeth) yn eu cludo yn ôl i lawr y traeth ar ongl sgwâr fel canlyniad disgyrchiant. Yn araf mae'r broses yn symud y gwaddodion ar hyd y traeth gan arwain at erydiad mewn rhai mannau a gwaddodiad mewn mannau eraill.
Er mwyn rhwystro erydiad arfordirol trwy'r broses hon, mae grwynau yn aml yn cael eu hadeiladu ar draethau bregus. Mae morglawdd yn amddiffynfa arfordirol fwy sylweddol.[1]